Cytundeb Sgiliau Sector
Cytundeb Sgiliau Sector ar gyfer y sector dysgu gydol oes
Mae'r Cytundeb Sgiliau Sector (SSA) ar gyfer y sector dysgu gydol oes yn gytundeb rhwng cyflogwyr, rhan-ddeiliaid, y llywodraeth, sefydliadau partner a Lifelong Learning UK i gyflawni cynllun gweithredu cytunedig er mwyn bodloni anghenion sgiliau blaenoriaeth y sector, nawr ac yn y dyfodol.
Pam y datblygwyd yr SSA?
Wedi ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr a rhan-ddeiliaid, mae'r SSA yn rhestru gofynion sgiliau o flaenoriaeth a sut y dylid eu darparu, er mwyn sicrhau bod y sector yn datblygu'r gweithlu medrus sydd ei angen arno i gynyddu cynhyrchiant a gwella gwasanaethau cyhoeddus.
Proses yr SSA
Mae datblygu'r SSA wedi cynnwys pum cyfnod. Oherwydd cyfansoddiad unigryw'r sector dysgu gydol oes, mae LLUK yn datblygu Arolwg Effaith hefyd.
Y cyfnod gwybodaeth - wedi ei gwblhau
Cyfnod 1: Asesu anghenion sgiliau presennol a dyfodol y sector dysgu gydol oes
Cyfnod 2: Deall y cyflenwad presennol o sgiliau
Y cyfnod cytundeb - wedi ei gwblhau
Cyfnod 3: Dadansoddi bylchau mewn darpariaeth a phrofi'r farchnad
Cyfnod 4: Asesu gweithrediadau posibl ar y cyd gan gyflogwyr
Y cytundeb terfynol - wedi ei gwblhau
Cyfnod 5: Datblygu cynllun gweithredu gyda chyflogwyr a rhan-ddeiliaid
Yr arolwg effaith - wedi ei gwblhau
Arolwg effaith: Asesu effaith SSA y Cynghorau Sgiliau Sector eraill ar y sector dysgu gydol oes
Gwybodaeth arall
Mae adroddiadau ar gyfer cyfnodau 1-3 ar gael trwy glicio ar y cysylltiadau uchod. Mae gwybodaeth bellach ar gael fel a ganlyn: Taflen yr SSA, Cwestiynau a ofynnir yn aml, Diweddariad Rhagfyr 2006, Diweddariad Mai 2007, a Diweddariad Medi 2007.
-
Arolwg Effaith
Mae Arolwg Effaith LLUK yn canolbwyntio ar arolygu SSA y cynghorau sgiliau sector eraill er mwyn deall eu heffaith bosibl ar gynllunio gweithlu.
-
Y cytundeb terfynol
Mae Cyfnod 5 Cytundeb Sgiliau Sector (SSA) LLUK yn canolbwyntio ar ddatblygu cynllun gweithredu gyda chyflogwyr a rhan-ddeiliaid, sy'n ymdrin ag ystyriaethau sgiliau'r sector a nodwyd yn ystod cyfnodau gwaith eraill.
-
Y cyfnod cytundeb
Mae cyfnod cytundeb Cytundeb Sgiliau Sector (SSA) LLUK yn cwmpasu Cyfnod 3 (dadansoddi bylchau a phrofi'r farchnad) a Chyfnod 4 (asesu gweithrediadau posibl ar y cyd gan gyflogwyr).
-
Y cyfnod gwybodaeth
Mae cyfnod gwybodaeth Cytundeb Sgiliau Sector (SSA) LLUK yn cwmpasu Cyfnod 1 (asesu anghenion sgiliau) a Chyfnod 2 (asesu ddarpariaeth bresennol y sector dysgu gydol oes).

