Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012

Mae Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yn gyfle bendigedig i'r DU gyfan.  Er i'r gemau bara ychydig wythnosau yn unig o 27 Gorffennaf 2012, bydd eu heffaith yn cael ei gweld am flynyddoedd i ddod.  Bydd yr etifeddiaeth hon yn cael ei gwerthfawrogi nid yn unig yn Llundain (bydd canolfan chwaraeon yn cael ei hadeiladu yn y rhan fwyaf o ranbarthau/cenhedloedd neu o ran cyfleusterau chwaraeon newydd neu well).

Bydd effaith fawr ar sgiliau, i'r gweithlu sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r gemau, y gweithlu anuniongyrchol mewn sectorau cysylltiedig a'r gweithlu ehangach gyda'r sector gwasanaethau ariannol, er enghraifft, yn disgwyl cynnydd. 

Sut bydd hyn yn effeithio ar y gweithlu dysgu gydol oes?

Bydd angen sgiliau newydd a/neu ychwanegol ar y DU er mwyn i'r gemau lwyddo ac mae hyn yn dibynnu ar weithlu dysgu gydol oes medrus sy'n gallu addasu.  Pa un a yw'n annog pobl ifanc i ddeall persbectif byd-eang (rôl ar gyfer addysg ddatblygu), ysbrydoli pobl o bum prif fwrdeistref y Gemau yn Llundain i gyfrannu i'r rhaglen cyn-wirfoddoli (rôl ar gyfer gweithwyr ieuenctid a chymuned) neu wella sgiliau gwasanaeth cwsmer y rhai yn y diwydiant lletygarwch, bydd cyflogwyr dysgu gydol oes wrth graidd y trawsffurfiad.

Sut mae LLUK yn rhan o hyn?

Mae LLUK wedi bod yn gyfrannwr allweddol i ddau arolwg a gyflawnwyd gan yr Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector, a edrychodd ar y sgiliau sydd eu hangen i wella'r profiad i ymwelwyr y sgiliau sydd eu hangen i wella'r profiad i ymwelwyrpa sgiliau sydd eu hangen a phryd. Mae copïau o'r adroddiadau ar gael trwy glicio ar y ddolen berthnasol.