Datblygiad proffesiynol i athrawon Diploma

Professional_Development_Guide_-_cover_shot_small

Mae arweiniad wedi ei ddiweddaru i gynorthwyo cynllunio datblygiad proffesiynol athrawon Diploma wedi cael ei gyhoeddi gan Dysgu Gydol Oes yn y DU mewn partneriaeth â'r Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu dros Ysgolion (TDA).

Mae 'A Guide to Support the Professional Development of Diploma Teachers' (2008) yn nodi ac yn esbonio'r wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sy'n cyfrannu at gyflwyno'r Diploma yn effeithiol. Mae'r arweiniad hefyd yn mapio'r meysydd penodol hyn o ddatblygiad i safonau proffesiynol ar gyfer athrawon mewn ysgolion a cholegau addysg bellach fel ei gilydd, gan ei gwneud yn bosibl nodi lle mae sgiliau a gwybodaeth berthnasol wedi cael eu hennill.

Nodir y meysydd lle gall athrawon Diploma wella eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth drwy ddatblygiad proffesiynol fel:

  • dysgu cymhwysol
  • asesu ar gyfer dysgu ac asesu dysgu
  • gwaith cydweithredol
  • datblygu arfer myfyriol
  • sgiliau dysgu generig
  • gwybodaeth, cyngor ac arweiniad a
  • dysgu wedi ei bersonoleiddio

Gall yr areiniad hwn fod o gymorth i reolwyr datblygu staff ac arweinwyr datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) i roi cymorth a chyfleoedd datblygu i athrawon Diploma. Gall yr arweiniad fod yn ddefnyddiol hefyd i athrawon ac ymarferwyr unigol a all ei ddefnyddio  i nodi eu hanghenion datblygiad proffesiynol eu hun.

I'w lawrlwytho
Lawrlwythwch y fersiwn PDF yma (Saesneg yn unig, 2.36MB)

Copïau caled
Cysylltwch ag advice@lluk.org

Mae'r arweiniad hwn yn cymryd lle 'Training and Development Guidance for Teachers of Diplomas' a gyhoeddwyd yn Chwefror 2007.