Y bwriad

Mae rôl benodol ac unigryw Lifelong Learning UK (LLUK) yn allweddol er mwyn i'r system cyflenwi sgiliau wella o ran ansawdd a'i gallu i gwrdd â heriau ar draws y DU.

Cefndir gwaith LLUK yw'r polisïau allweddol a gyhoeddir gan lywodraeth y DU a llywodraethau'r pedair cenedl sy'n ail-lunio eu systemau cyflenwi sgiliau:

Mae cysylltu â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, gan gynnwys llywodraethau cenedlaethol, yn agwedd allweddol o rôl LLUK.  Dywedodd Jane Davidson AC, Gweinidog Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru:

"...bwriadwn symud tuag at fframwaith datblygiad proffesiynol ar gyfer holl weithlu dysgu ac addysgu Cymru....dymunaf weithio'n agos gydag LLUK a symud yr agenda hon yn ei blaen."

Er mwyn i gyflogwyr y DU gael mynediad at y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn cael economi ffyniannus a chymdeithas gynhwysol a hunangyflawnol, bydd LLUK yn:
 
galluogi cyflogwyr dysgu gydol oes i recriwtio, cadw, datblygu a defnyddio staff medrus ac effeithiol,

a gweithredu fel brocer gyda'r cynghorau sgiliau sector eraill yn y rhwydwaith Sgiliau ar gyfer Busnes. 

Mae rhagor o wybodaeth ar egwyddorion sylfaenol LLUK ar gael ar ein hadrannau gweledigaeth a blaenoriaethau strategol, ynghyd â gwybodaeth gefndirol ar sut mae LLUK yn dylanwadu polisi a gweithio'n rhyngwladol.