Preifatrwydd

Mae Lifelong Learning UK (LLUK) a Standards Verification UK (SVUK) yn ymroddedig i sicrhau bod preifatrwydd defnyddwyr yn cael ei barchu ac yr ymdrinnir â gwybodaeth defnyddwyr yn briodol. 
Cwmpas

Mae'r polisi preifatrwydd ar-lein hwn yn cwmpasu gwefannau LLUK a SVUK ac unrhyw is-wefannau.  Nid yw'n cwmpasu unrhyw agwedd arall ar bolisi preifatrwydd LLUK na SVUK ac nid yw'n berthnasol i wefannau trydydd parti sy'n gysylltiedig â gwefannau'r naill neu'r llall.
 
Mae LLUK a SVUK yn dal a storio gwybodaeth bersonol pan fydd defnyddiwr yn:

  • tanysgrifio i newyddlen
  • gofyn am wybodaeth
  • darparu adborth
  • cysylltu â LLUK neu SVUK

Datganiad Diogelu Data

Mae LLUK a SVUK yn ymgymryd i drin unrhyw wybodaeth a ddarperir yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 1998.  Byddwn yn casglu data dim ond ar gyfer y pwrpas y gofynnwyd amdano.

Tanysgrifio

Mae tanysgrifio'n berthnasol i newyddlenni LLUK neu os yw defnyddiwr wedi gofyn am dderbyn gwybodaeth oddi wrth LLUK neu SVUK.  Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych wedi ei rhoi i ni er mwyn anfon e-bost newyddion a gwybodaeth atoch, o bosibl trwy asiant bostio trydydd parti.  Os defnyddiwn asiant bostio, byddwn yn gofyn iddynt fodloni gofynion deddfwriaeth diogelu data.

Dileu Tanysgrifiad

Gall unrhyw un sy'n tanysgrifio i dderbyn gwybodaeth oddi wrth LLUK neu SVUK ddileu eu tanysgrifiad ar unrhyw adeg a pheidio â derbyn gwybodaeth, naill ai trwy ddilyn y ddolen dileu tanysgrifiad sy'n cael ei hanfon gyda phob cyfathrebiad electronig neu drwy e-bostio enquiries@lluk.org neu enquiries@svuk.eu.

Cwcis

Mae cwcis yn ddarnau bach o ddata sy'n cael eu hanfon o wasanaethwr gwe i borwr gwe unigolyn i helpu i adnabod defnyddwyr a phersonaleiddio ymweliadau defnyddwyr.  Nid yw LLUK a SVUK yn defnyddio cwcis sy'n storio gwybodaeth bersonol.  Fodd bynnag, defnyddir cwcis ar adegau i bennu gwybodaeth bersonol megis cenedl, rhanbarth neu faes gwaith.

Rheolwr Data

Ein rhif cofrestru yw Z9032279.