Hygyrchedd

Cynlluniwyd gwefan Lifelong Learning UK (LLUK) i fod yn gynhwysol a chynnig mynediad i bob defnyddiwr. 

 

Cynlluniwyd y tudalennau er mwyn gwneud gwybodaeth yn hygyrch i bob defnyddiwr, gan gynnwys y rhai ag anableddau.

 

Mae'r ystyriaethau allweddol rydym wedi ymdrin â nhw er mwyn sicrhau gwefan hygyrch fel a ganlyn:

  • testun amgen 
  • dolenni
  • dogfennau
  • maint y testun
  • darpariaeth yn y Gymraeg

Testun amgen

Mae i'r holl ddelweddau ar y wefan hon destun amgen bras, sy'n disgrifio'r ddelwedd neu ei swyddogaeth fel y bo'n briodol.  Gelwir y testun amgen hwn yn "alt-text" hefyd a byddwch yn ei weld fel arfer pan fydd nodwedd llwytho delweddau'r porwr wedi ei droi i ffwrdd.

Dolenni

Ysgrifennwyd y dolenni er mwyn iddynt wneud synnwyr pan fyddwch yn eu darllen allan o gyd-destun. 

Dogfennau

Gallwch ddarllen ffeiliau PDF trwy ddefnyddio meddalwedd Adobe Reader sydd ar gael ar gyfer llawer o systemau cyfrifiadurol gwahanol, gan gynnwys Windows, Macintosh, Linux a Palm. I gael cymorth gyda ffeiliau Acrobat a dolen i lawrlwytho Acrobat Reader, ewch i wefan Adobe (ffenestr newydd).

Maint y testun

Cynlluniwyd y testun ar y wefan hon trwy ddefnyddio gwerth ansefydlog ar ddalen arddull.  Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr newid maint y testun yn hawdd trwy ddefnyddio gosodiadau eu porwr.

Darpariaeth yn y Gymraeg

Sylwch fod LLUK wedi cyfieithu'r holl wybodaeth sy'n berthnasol i Gymru a'r DU i'r Gymraeg, lle mae hyn wedi bod yn bosibl.  Os na fu hyn yn bosibl hyd yma, byddwn yn ystyried cyfieithu tudalennau ychwanegol i'r Gymraeg ar gais. Cysylltwch â ni os hoffech ein hysbysu o'r tudalennau hyn.