Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor LLUK
Ariennir Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Lifelong Learning UK gan yr Adran dros Arloesedd, Prifysgolion a Sgiliau (DIUS) a chaiff ei staffio gan ymarferwyr a hyfforddwyr athrawon profiadol. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cyngor arbenigol, cyfrinachol ac am ddim trwy linell gymorth ar bob agwedd o weithio yn y sector dysgu gydol oes yn Lloegr. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys y Pwynt Cyfeirio Cenedlaethol ar gyfer datblygiad proffesiynol Sgiliau ar gyfer Bywyd.
Gallwch siarad ag ymgynghorydd am:
- gyrfaoedd yn y sector dysgu gydol oes
- y cymwysterau sydd eu hangen arnoch a sut beth yw bod yn athro, tiwtor neu hyfforddwr
- ailwampio addysg gychwynnol i athrawon/tiwtoriaid/hyfforddwyr o fis Medi 2007
- hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i athrawon
- cefnogi dysgu
- datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon llythrennedd, rhifedd a Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) ac athrawon arbenigol heblaw am lythrennedd, rhifedd ac ESOL
- gweithio ym maes addysg bellach
- gweithio ym maes addysg uwch
- gweithio ym maes llyfrgelloedd, gwasanaethau gwybodaeth ac archifau
- gweithio ym maes dysgu seiliedig ar waith
- gweithio yn y sector ieuenctid a chymuned
Gallwch ffonio ni ar 020 7936 5798 neu anfon e-bost atom. Edrychwn ymlaen at siarad â chi.

