Strategaeth Cymwysterau Sector

Mae Strategaeth Cymwysterau Sector (SQS) Lifelong Learning UK yn fenter pedair gwlad i ddatblygu ymagwedd gydlynol at gymwysterau er mwyn bodloni anghenion y sector yn y deng mlynedd nesaf.  Bydd yr SQS yn cael ei datblygu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr a rhan-ddeiliaid ym mhob un o'r pedair gwlad a bydd y cynnyrch terfynol yn cynnwys strategaeth gyffredinol i'r DU.  Bydd cynlluniau gweithredu cenedlaethol yn dilyn, ar ôl cymeradwyo'r strategaeth, a byddant yn cynnwys proses raddol i fonitro a diweddaru cymwysterau.

Ariennir y prosiect SQS gan yr Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector (SSDA) a bydd cam 3 yn cael ei weithredu rhwng mis Hydref 2007 a mis Gorffennaf 2008 yn y lle cyntaf.  Bydd yn dod yn broses naturiol, sy'n ymateb i newidiadau yn yr amgylchedd gwaith a bydd yn gallu bod yn sail i ddatblygu cymwysterau hyblyg addas i'w pwrpas.  Wrth adeiladu ar broses y Cytundeb Sgiliau Sector a chysylltu â hwn trwy'r broses arolygu a'r agenda ailwampio cymwysterau, mae'r SQS yn debygol o arwain at:

  • gael gwared ar hen gymwysterau a chymwysterau nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach
  • adnabod bylchau mewn cymwysterau
  • ymdrin ag anghenion cymwysterau'r dyfodol
  • cymwysterau addas i'w pwrpas 
  • datblygu proses gynhwysol ar gyfer parhau i arolygu cymwysterau.

Am fanylion pellach ar yr SQS, ewch i wefan yr SSDA, sy'n cynnwys strategaethau drafft o gam 1, cyfarwyddyd a safonau ansawdd.