Meysydd gwaith
Caiff gwaith Lifelong Learning UK ei estyn ar draws y pum maes isod, sy'n cynnwys cymuned dysgu gydol oes y DU.
Cliciwch ar y ddolen / dolenni priodol i gael gwybodaeth am y maes / meysydd sy'n berthnasol i chi.
Sylwer bod LLUK wedi cyfieithu'r holl wybodaeth sy'n berthnasol i Gymru a'r DU i'r Gymraeg lle mae hyn wedi bod yn bosibl. Lle na fu hyn yn bosibl hyd yma, byddwn yn ystyried cyfieithu rhagor o dudalennau i'r Gymraeg ar gais. Cysylltwch â ni os hoffech ein hysbysu o'r tudalennau hyn.
-
Dysgu a Datblygu Cymunedol (CLD)
sy'n cwmpasu Dysgu Oedolion yn y Gymuned, Datblygiad Cymunedol, Addysg Gymunedol, Addysg Datblygu, Dysgu Teulu, Gweithio gyda Rhieni, Gwaith Ieuenctid a Dysgu a Datblygu Cymunedol yn Yr Alban
-
Addysg bellach (AB)
sy'n cwmpasu AB gyffredinol, colegau trydyddol a chweched dosbarth, colegau arbenigol annibynnol, colegau rhanbarthol Gogledd Iwerddon, colegau'r Alban a darpariaeth ddysgu ôl-16 yng Nghymru
-
Addysg uwch (AU)
sy'n cwmpasu prifysgolion, colegau prifysgol a cholegau AU
-
Llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth (LAIS)
sy'n cwmpasu llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys y rhai mewn prifysgolion, colegau ac ymddiriedolaethau'r GIG
-
Dysgu seiliedig ar waith (WBL)
sy'n cwmpasu darparwyr hyfforddiant cenedlaethol, darparwyr hyfforddiant arbenigol a sefydliadau eraill yn y sector preifat

