Dw i'n cynrychioli cyflogwr neu sefydliad dysgu gydol oes

Lifelong Learning UK (LLUK) yw'r cyngor sgiliau sector annibynnol a arweinir gan gyflogwyr ar gyfer dysgu a datblygu cymunedol, addysg bellach, addysg uwch, llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth, a dysgu seiliedig ar waith.

Mae LLUK yn darparu safbwynt strategol ar gyfer cynllunio a datblygu gweithlu ar draws pedair cenedl y DU, mae'n datblygu safonau ar gyfer y rhai sy'n gweithio ym maes dysgu gydol oes ac mae'n llais i gyflogwyr y sector ar faterion sgiliau.  

 

I gael rhagor o wybodaeth am LLUK neu unrhyw un o'r pynciau a restrir isod, cliciwch ar y ddolen briodol.

 

Mae'r newyddion diweddaraf am ddatblygiadau yn eich rhan chi o'r sector, ynghyd â gwybodaeth am digwyddiadau a prosiectau sy'n berthnasol i'ch sefydliad chi, ar gael ar dudalennau'r cenhedloedd neu meysydd gwaith a gallwch fanylu ar y wybodaeth hon trwy gyfuno cenedl a maes gwaith eich sefydliad.

 

Mae gwybodaeth ar gael hefyd am waith safonau a chymwysterau, ymchwil a cydraddoldeb ac amrywiaeth LLUK ac mae wedi cael ei chategoreiddio yn ôl y pedwar o grwpiau defnyddwyr.

 

Mae'n bosibl y bydd gan sefydliadau sy'n gweithio gydag LLUK ddiddordeb mewn gwaith ein his-gwmni, Standards Verification UK, sy'n gyfrifol am wirio hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac sy'n cwmpasu ffurfiau eraill o hyfforddi a datblygu gweithlu.

 

I gael cyngor arbenigol am ddim ar bob agwedd o gyflogaeth yn y sector dysgu gydol oes, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus eich staff a sut mae ailwampio addysg gychwynnol i athrawon/tiwtoriaid/hyfforddwyr yn effeithio ar eich sefydliad, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor LLUK, sy'n cael ei staffio gan ymarferwyr profiadol a hyfforddwyr athrawon.  Mae'n rhan o'r Pwynt Cyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Sgiliau ar gyfer Bywyd. Gallwch ffonio ni ar 020 7936 5798 neu anfon e-bost atom.

Ar gyfer pob ymholiad arall, cysylltwch â'ch swyddfa leol neu'r rheolwr prosiect perthnasol.