Dw i'n cynrychioli sefydliad sy'n gweithio gydag LLUK

Lifelong Learning UK (LLUK) yw'r cyngor sgiliau sector annibynnol a arweinir gan gyflogwyr ar gyfer dysgu a datblygu cymunedol, addysg bellach, addysg uwch, llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth, a dysgu seiliedig ar waith.

Mae LLUK yn cyflwyno safbwynt strategol ar gyfer cynllunio a datblygu gweithlu ar draws pedair cenedl y DU, yn datblygu safonau ar gyfer y rhai sy'n gweithio ym maes dysgu gydol oes ac yn llais i gyflogwyr y sector hwn ar faterion sgiliau.

 

I gael rhagor o wybodaeth am LLUK neu unrhyw un o'r pynciau a restrir isod, cliciwch ar y ddolen briodol.

 

Mae Lifelong Learning UK (LLUK) yn gweithio'n agos iawn ag ystod eang o ran-ddeiliaid, partneriaid a sefydliadau'r sector ar lefel y DU, yn genedlaethol, rhanbarthol a lleol ac mae LLUK yn rhoi pwyslais mawr ar ymgynghori ar ei holl weithgareddau.

 

Mae'r wefan hon yn borth gwybodaeth sy'n darparu'r newyddion diweddaraf ar ddatblygiadau yn y sector dysgu gydol oes, ynghyd â gwybodaeth am digwyddiadau a prosiectau sy'n berthnasol i'ch sefydliad.  Mae'r wybodaeth ar gael hefyd ar y tudalennau cenhedloedd a meysydd gwaith a gallwch chwilio'r rhain er mwyn dod o hyd i'ch maes diddordeb.

 

Mae gwybodaeth ar gael hefyd am waith safonau a chymwysterau, ymchwil a cydraddoldeb ac amrywiaeth LLUK ac mae wedi cael ei chategoreiddio yn ôl y pedwar o grwpiau defnyddwyr.

 

Mae'n bosibl y bydd gan sefydliadau sy'n gweithio gydag LLUK ddiddordeb mewn gwaith ein his-gwmni, Standards Verification UK, sy'n gyfrifol am wirio hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac sy'n cwmpasu ffurfiau eraill o hyfforddi a datblygu gweithlu.

 

I ymholi am bwnc ychwanegol, cysylltwch â'ch swyddfa leol neu'r rheolwr prosiect perthnasol.