Dw i'n gweithio yn y sector dysgu gydol oes

Lifelong Learning UK (LLUK) yw'r cyngor sgiliau sector a arweinir gan gyflogwyr sy'n gyfrifol am ddatblygiad proffesiynol pawb sy'n gweithio ym maes dysgu a datblygu cymunedol, addysg bellach, addysg uwch, llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth, a dysgu seiliedig ar waith.  Yn gryno, ni sy'n cynrychioli buddiannau'r 1 filiwn+ o unigolion sy'n gweithio yn y sector dysgu gydol oes.

Am wybodaeth bellach am LLUK neu unrhyw un o'r pynciau a restrir isod, cliciwch ar y ddolen briodol.

 

Mae'r newyddion diweddaraf ar ddatblygiadau yn y sector dysgu gydol oes, ynghyd â gwybodaeth am digwyddiadau a prosiectau sy'n berthnasol i'ch sefydliad ar gael ar y tudalennau cenhedloedd a meysydd gwaith a gallwch chwilio'r rhain er mwyn dod o hyd i'ch maes diddordeb.

 

Mae gwybodaeth ar gael hefyd am waith safonau a chymwysterau, ymchwil a cydraddoldeb ac amrywiaeth LLUK ac mae wedi cael ei chategoreiddio yn ôl y pedwar o grwpiau defnyddwyr.

 

Os ydych yn gweithio yn y sector dysgu gydol oes, mae'n bosibl y bydd gennych ddiddordeb mewn gwaith ein his-gwmni, Standards Verification UK, sy'n gyfrifol am wirio hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac sy'n cwmpasu ffurfiau eraill o hyfforddi a datblygu gweithlu.

 

I gloi, i gael cyngor arbenigol am ddim ar bob agwedd ar weithio yn y sector dysgu gydol oes, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus a diwygio addysg gychwynnol i athrawon/tiwtoriaid/hyfforddwyr, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor LLUK, sy'n cael ei staffio gan ymarferwyr a hyfforddwyr athrawon proffesiynol.  Mae'n rhan o'r Pwynt Cyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Sgiliau ar gyfer Bywyd. Gallwch ffonio ni ar 020 7936 5798 neu anfon e-bost atom.