Hoffwn weithio yn y sector dysgu gydol oes
Lifelong Learning UK (LLUK) yw'r cyngor sgiliau sector a arweinir gan gyflogwyr sy'n gyfrifol am ddatblygiad proffesiynol pawb sy'n gweithio ym maes dysgu a datblygu cymunedol, addysg bellach, addysg uwch, llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth, a dysgu seiliedig ar waith ledled y DU. Rydym yn cynrychioli buddiannau'r 1 filiwn+ o unigolion sy'n gweithio yn y sector dysgu gydol oes ledled y DU.
Mae gyrfaoedd ym maes dysgu gydol oes yn amrywiol a helaeth ac maent yn cynnwys rolau athrawon, tiwtoriaid, hyfforddwyr, aseswyr, gwirwyr a'r holl rolau gweinyddol a chefnogi eraill ledled y sector addysg ôl-16.
I gael gwybodaeth am y cymwysterau sydd eu hangen arnoch i weithio yn y sector a sut beth yw bod yn athro, tiwtor neu hyfforddwr neu i wybod mwy am hyfforddiant athrawon a datblygiad proffesiynol, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor LLUK, sy'n cael ei staffio gan ymarferwyr profiadol a hyfforddwyr athrawon, ac sy'n darparu cyngor arbenigol, cyfrinachol, am ddim ar bob agwedd o weithio yn y sector dysgu gydol oes. Gallwch ffonio ni ar 020 7936 5798 neu anfon e-bost atom.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio yn y sector dysgu gydol oes, mae'n bosibl y bydd gennych ddiddordeb mewn gwaith ein his-gwmni, Standards Verification UK, sy'n gyfrifol am wirio hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac estyn ei wasanaeth i gwmpasu ffurfiau eraill o hyfforddi a datblygu gweithlu.

